Ein hanes
2015
Gwnaethom gyflwyno rhaglen ddementia i gartrefi preswyl, gan wahodd eu cymunedau i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol i helpu i reoli symptomau dementia. Cafodd ein gwasanaethau NPI (ymyrraeth nad oedd yn fferyllol) eu cydnabod fel ffordd fforddiadwy a buddiol iawn i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.
2016
Ar ôl sicrhau cyllid gan y Loteri Genedlaethol, lansiwyd y prosiect DIAL yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg: prosiect a ddyluniwyd i wella bywydau pobl sy'n byw gyda dementia trwy eu cynnwys mewn gweithgareddau a oedd yn canolbwyntio ar eu diddordebau personol.
2018
Cynhaliwyd ein digwyddiad ‘Nad fi’n Angof’ yng Nghaerdydd: arddangosfa o ffilmiau byrion a gweithiau creadigol eraill a wnaed mewn partneriaeth â phobl leol sy’n byw gyda dementia. Yn ogystal â rhoi cyfle i unigolion â dementia gael llais, cododd y digwyddiad ymwybyddiaeth o gyflyrau sy'n gysylltiedig â dementia a'r effaith maent yn ei chael ar fywydau pobl. Diolch yn arbennig i'r gwirfoddolwyr Richard Gaunt a Jeanette Hawkes am wireddu’r prosiect.
2022
Ar ôl cefnogi mwy na 650 o bobl â dementia yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg trwy DIAL, cawsom gyllid ychwanegol gan gronfa grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy Llywodraeth Cymru i ymestyn ein gwaith yn Ne Cymru, gan ein galluogi i gefnogi cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.