Polisi Cwcis

Cyflwyniad

Daeth cyfraith newydd o’r UE i rym ar Mai 26 2011, sy’n ei gwneud yn ofynnol i berchnogion gwefannau wneud newidiadau sylweddol i’w safleoedd ac a allai weddnewid y profiad o ddefnyddio’r we a siopa ar-lein i bawb. Deddfwriaeth preifatrwydd wedi’i addasu yw’r ‘Gyfraith Cwcis’ hon, sy’n ei gwneud yn ofynnol i wefannau gael cydsyniad gwybodus gan ymwelwyr cyn y gallant storio neu gyrchu unrhyw wybodaeth ar gyfrifiadur neu unrhyw ddyfais arall sy’n cysylltu â’r we.

Mae ein gwefan yn defnyddio amrywiol gwcis sy’n hanfodol i wneud i’r wefan weithio.

Beth yw cwcis?

Ffeiliau data yw cwcis, ac mae gwefannau’n eu cadw ar eich cyfrifiadur er mwyn i’ch cyfrifiadur gael ei adnabod y tro nesaf y byddwch yn ymweld â’r wefan honno. Caiff cwcis eu hanfon yn ôl a blaen gan eich porwr gwe a gweinydd rhyngrwyd, ac maen nhw’n cynnwys gwybodaeth fel:

  • Gosodiadau’r defnyddiwr
  • Dewisiadau personol defnyddwyr gwefannau

Ffeil goddefol yw cwci, ac ni all ledaenu firysau cyfrifiadurol na rhaglenni niweidiol eraill. Fe’u defnyddir yn aml i ddadansoddi’r ffordd y caiff gwefan ei defnyddio, i alluogi perchennog y wefan i wella profiad defnyddwyr. Mewn llawer o achosion, gall cwcis fod yn angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth penodol.

Mathau o gwcis

Yn aml, caiff cwcis eu dileu o yriant caled eich cyfrifiadur pan fyddwch chi’n cau eich porwr gwe (cwcis sesiwn yw’r enw ar y rhain). Fodd bynnag, gellir gosod cwcis gyda dyddiad terfynu arnynt, i alluogi storio data am gyfnodau byrrach neu hirach (cwcis parhaus). Caiff cwcis parhaus eu cadw ar yriant caled eich cyfrifiadur fel arfer.

At hynny, mae yna wahaniaeth rhwng cwcis parti cyntaf a chwcis trydydd parti. Gadewir cwcis parti cyntaf gan y dudalen we y mae’r defnyddiwr yn ymweld â hi. Gadewir cwcis trydydd parti gan drydydd parti, sy’n cynnwys elfennau wedi’u gwreiddio ar y dudalen we mae’r defnyddiwr yn ymweld â hi.

Cwcis ar effro.org

Ar effro.org, rydyn ni’n defnyddio cwcis yn bennaf ar gyfer dadansoddi’r we i optimeiddio profiad ein defnyddwyr ar y wefan.

Cwcis gan Web Analysis Tool, Google Analytics

Ar effro.org, rydyn ni’n defnyddio Google Analytics i ddadansoddi sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Mae’r wybodaeth y mae’r cwci’n ei chasglu am eich ymweliad (data traffig, yn cynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei anfon i weinyddwyr Google a’i gadw yno, yn bennaf yn yr UE, ond o bosib mewn nifer o leoliadau rownd y byd.

Mae Google yn defnyddio’r wybodaeth i werthuso’r ffordd rydych yn defnyddio’r wefan, casglu adroddiadau ar eich defnydd gweithredol o’r wefan ac yn cynnig gwasanaethau eraill sy’n gysylltiedig â gweithgareddau ar y wefan a defnyddio’r rhyngrwyd. Gall Google hefyd anfon yr wybodaeth ymlaen at drydydd parti, os bydd angen iddo wneud hynny yn ôl y gyfraith, neu os yw’r trydydd parti’n prosesu’r wybodaeth ar ran Google.

Mae Google Analytics yn gosod dau fath o gwci:

  • Cwci parhaus sy’n dangos ai defnyddiwr sy’n dychwelyd ydych chi, o ble daw’r defnyddiwr, pa beiriant chwilio maen nhw’n ei ddefnyddio, geiriau allweddol ac ati.
  • Cwcis sesiwn sy’n dangos pa bryd ac am ba hyd mae defnyddiwr ar y wefan. Mae cwcis sesiwn yn darfod ar ôl bob sesiwn, h.y. pan fyddwch yn cau’r tab neu’r porwr.

Nid yw Google yn cymathu eich cyfeiriad IP gyda’r wybodaeth arall yn ei feddiant.

Darllenwch fwy am gwcis Google Analytics:

Sut i gyfyngu ar gwcis

Gallwch atal cwcis rhag cael eu storio ar eich cyfrifiadur drwy ddewis y gosodiadau perthnasol yn eich porwr. Dylech fod yn ymwybodol, fodd bynnag, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio holl nodweddion gwefan heb gwcis. Gan fod cwci bob amser wedi’i lleoli gyda chi, y cleient, mae bob amser yn bosibl ichi weld, newid neu ddileu’r cwcis hyn. Gobeithiwn y byddwch yn caniatáu’r cwcis rydyn ni’n eu gosod er mwyn ein helpu i wella’r wefan.

Os nad ydych chi’n dymuno derbyn cwcis gan effro.org, bydd y rhan fwyaf o fersiynau mwyaf newydd porwyr gwe yn caniatáu ichi ddewis opsiynau uwch ar gyfer cwcis dan y tab dewisiadau ‘internet options’. Gallwch wedyn ychwanegu’r parth effro.org i’r rhestr o wefannau’r ydych yn dymuno atal cwcis ar eu cyfer.

Gallwch ddefnyddio’r opsiwn hwn hefyd i ddileu cwcis unigol neu’r holl gwcis a gaiff eu cadw gan eich porwr.

Os byddwch yn newid eich gosodiadau i gyfyngu ar gwcis, sylwer y gallai effeithio ar ba mor gyflawn y bydd rhai gwefannau’n gweithio i chi.

Cyfyngu Cwcis gan Google Analytics

Pe byddai’n well gennych i’ch ymweliad beidio â chael ei chofrestru gan Google Analytics, gallwch ddefnyddio Ychwanegyn Porwr Opt-Out Google. Sylwer: ni fydd eich ymweliadau â gwefannau eraill sy’n defnyddio Google Analytics yn cael eu cofrestru os gosodwch yr ychwanegyn hwn ar eich porwr.

Cyngor Pellach gan y Porwyr Mwyaf Cyffredin

Y cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon

Darparwr
Platfform, trwy effro.org [ADD OTHER COOKIE PROVIDERS]

Enw(au)
[ADD COOKIE NAMES]

Pwrpas
Mae Google Universal Analytics yn gosod ID unigryw a ddefnyddir i gyfrifo data ar gyfer adroddiadau dadansoddeg. Ceir mwy o wybodaeth am bolisi preifatrwydd Google yma (https://policies.google.com/privacy?hl=en-GB&gl=uk)

Math
Parti Cyntaf [ADD OTHER COOKIE DURATIONS]

Parhad
Sesiwn porwr i [X] o flynyddoedd