Gwybodaeth a chyngor

Ar y dudalen hon fe welwch ein diweddariadau diweddaraf, adnoddau defnyddiol ac atebion i gwestiynau cyffredin am ein gwasanaethau, yn ogystal â mynediad at y ffilmiau byr a gynhyrchwyd ar gyfer ein harddangosfa ‘Nad fi’n Angof’.

Diweddariad Coronafeirws

Mae Effro wedi parhau i ddarparu ei wasanaethau drwy gydol pandemig COVID-19, er bod rhai agweddau ar ein gwasanaeth wedi’u haddasu. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Cwestiynau Cyffredin

A yw’n costio unrhyw beth i gael gafael ar wasanaethau Effro?
Fel rhan o Platfform, elusen gofrestredig ar gyfer iechyd meddwl a newid cymdeithasol, nid ydym yn codi unrhyw beth am y gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig yn Effro. Ariennir ein gwaith gan Lywodraeth Cymru.
Sut alla i wneud atgyfeiriad i Effro?
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n poeni amdano yn byw gyda dementia, cysylltwch â'n tîm i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud atgyfeiriad. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig ein gwasanaethau yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gael gafael ar wasanaethau Effro?
Rydyn ni'n ceisio cadw ein hamseroedd aros mor fyr â phosib. Byddwn yn cydnabod eich atgyfeiriad cyn gynted ag y bydd yn dod i law ac yn rhoi syniad o'r amser aros yn fuan wedi hynny.
Faint o gefnogaeth a roddir gan Effro?
Mae ein sesiynau cefnogi grŵp yn rhedeg unwaith yr wythnos dros gyfnod sydd rhwng pump a 10 wythnos. Mae pob sesiwn grŵp yn para oddeutu awr a hanner. Nid oes terfyn amser ar ein cefnogaeth i unigolion – mae faint o gefnogaeth a roddwn i unigolion yn cael ei hadolygu’n rheolaidd gan ein gweithwyr achos. Ar gyfartaledd, rydym yn darparu dwy awr o gefnogaeth yr wythnos i bob unigolyn.
Sut alla i ddangos cefnogaeth i Effro?
Un o'r ffyrdd gorau o gefnogi ein gwaith yw dod yn wirfoddolwr a dechrau helpu pobl sy'n byw gyda dementia yn eich cymuned. Fel arall, efallai yr hoffech roi rhodd. Cysylltwch â ni am fanylion ar sut i wneud hyn.
Rwy'n credu y gallwn i neu rywun rwy'n eu hadnabod fod â dementia – beth ddylwn i ei wneud?
Y peth pwysicaf yw peidio â mynd i banig. Dechreuwch trwy wneud apwyntiad gyda'ch meddyg teulu i drafod eich pryderon. Yna gallant eich cyfeirio at glinig cof arbenigol neu wasanaeth tebyg.

Nad fi’n Angof

Roedd ‘Nad fi’n Angof’ yn arddangosfa o ffilmiau byrion a wnaed mewn partneriaeth â phobl yng Nghaerdydd a oedd yn byw gyda dementia. Yn ogystal â rhoi cyfle i unigolion â dementia gael eu clywed, mae'r ffilmiau wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau sy'n gysylltiedig â dementia a'r effaith y maent yn ei chael ar fywydau pobl.