Polisi preifatrwydd

Platfform yw rheolwr data’r wefan hon: https://effro.org

 

Y data y mae ei angen arnom

Mae’r data personol a gasglwn gennych yn cynnwys:

  • eich enw a’ch cyfeiriad ebost pan fyddwch yn defnyddio ein ffurflen gysylltu
  • sut rydych yn defnyddio ein gwefan – er enghraifft, pa ddolenni rydych chi’n clicio arnynt yn eich cyfeiriad Internet Protocol (IP), a manylion pa fersiwn o borwr gwe a ddefnyddioch
  • gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio’r wefan, defnyddio cwcis a thechnegau tagio tudalennau.
  • Unrhyw wybodaeth y dewiswch ei roi drwy ein ffurflenni cysylltu ar-lein

Ein sail gyfreithiol dros brosesu’r data hwn yw buddiant dilys.

Pam mae ei angen arnom

Rydyn ni’n defnyddio meddalwedd Google Analytics i gasglu gwybodaeth am y ffordd rydych chi’n defnyddio effro.org. Rydyn ni’n gwneud hyn er mwyn helpu i wneud yn siŵr fod y safle’n diwallu anghenion ei ddefnyddwyr ac i’n helpu ni i wneud gwelliannau, er enghraifft drwy wella nodweddion chwilio’r wefan.

Mae Google Analytics yn storio gwybodaeth am:

  • y tudalennau rydych yn ymweld â nhw ar effro.org
  • pa mor hir rydych yn ei dreulio ar bob un o dudalennau effro.org
  • sut cyrhaeddoch chi’r safle
  • beth rydych chi’n clicio arno wrth ymweld â’r safle

Dydyn ni ddim yn casglu nac yn storio eich gwybodaeth bersonol (er enghraifft eich enw a’ch cyfeiriad) felly ni ellir defnyddio’r wybodaeth hon i wybod pwy ydych chi.

Mae Platfform, drwy effro.org hefyd yn casglu data er mwyn:

  • gwella’r safle drwy fonitro sut rydych yn ei ddefnyddio
  • casglu adborth i wella ein gwasanaethau, er enghraifft ein ffurflen gysylltu
  • ymateb i unrhyw adborth a anfonwch atom, os gwnaethoch ofyn inni wneud
  • anfon diweddariadau ebost i ddefnyddwyr sy’n gofyn amdanynt
  • rhoi gwybodaeth i chi am ein gwasanaethau

Defnyddiwn eich enw a’ch cyfeiriad ebost, os gwnaethoch eu rhoi i ni, i rannu e-newyddlen reolaidd gyda chi sy’n cynnwys gwybodaeth am ein mudiad a digwyddiadau ar y gweill.

Yr hyn a wnawn gyda’ch data

Mae’n bosibl y caiff y data a gasglwn ei rannu gyda’n gweinydd gwe a Google Inc. at y dibenion a soniwyd amdanynt uchod.

Wnawn ni ddim:

  • gwerthu, rhentu na lesu eich data i drydydd parti
  • rhannu eich data gyda thrydydd parti at ddibenion marchnata

Fe wnawn ni rannu eich data os bydd gofyn inni wneud yn ôl y gyfraith – er enghraifft, trwy orchymyn llys, neu i atal twyll neu drosedd arall.

Fe ddefnyddiwn unrhyw fanylion enw a chyfeiriad ebost i rannu e-newyddlen reolaidd gyda chi, yn cynnwys gwybodaeth am ein mudiad a digwyddiadau ar y gweill. Wnawn ni fyth yn bwrpasol roi eich manylion i unrhyw sefydliad arall heblaw:

  • Mailchimp, y sefydliad a ddefnyddiwn i reoli ein rhestr bostio.
  • Enthuse, sy’n ymdrin â’n rhoddion ariannol.
  • Microsoft, sy’n datblygu ein meddalwedd TG ac sy’n ddatblygwyr Microsoft Forms, a ddefnyddiwn i gasglu data.

Dolenni defnyddiol

Am ba hyd y cadwn eich data

Wnawn ni ddim ond cadw eich data personol cyhyd ag:

  • y mae ei angen at y dibenion a nodir yn y ddogfen hon
  • y mae’r gyfraith yn gofyn inni wneud

Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu mai dim ond am isafswm o 1 flwyddyn ac uchafswm o 7 blynedd y byddwn yn dal ein gafael ar eich data personol.

Diogelu preifatrwydd plant

Nid yw ein gwasanaethau wedi’u cynllunio ar gyfer, ac nis targedir hwy at, blant 13 mlwydd oed neu iau. Nid ydym yn casglu nac yn cynnal data’n fwriadol ynghylch unrhyw un dan 13 blwydd oed.

Lle caiff eich data ei brosesu a’i storio

Rydym yn dylunio, yn adeiladu ac yn cynnal ein systemau i wneud yn siŵr bod eich data mor ddiogel â phosib, ar bob cam; tra caiff ei brosesu a tra caiff ei storio.

Gallai eich data personol, drwy gydol y camau o’i brosesu, gael ei drosglwyddo y tu hwnt i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Pan fo hyn yn digwydd, caiff yr holl gamau diogelu technegol a chyfreithiol priodol eu rhoi ar waith i sicrhau eich bod yn cael eich diogelu i’r un lefel ag y cewch o fewn yr AEE.

Sut rydym yn diogelu eich data ac yn ei gadw’n ddiogel

Mae Platfform, drwy effro.org, yn ymrwymedig i gynnal diogelwch eich gwybodaeth bersonol. Rydym yn ymrwymedig i leihau’r risgiau o gamgymeriadau gan bobl, lladrad, twyll, a chamddefnyddio ein cyfleusterau TG. Rydyn ni’n hysbysu ein staff o’n polisïau diogelwch ac yn eu hyfforddi i’w gweithredu. Mae ein staff yn ymrwymedig i arwyddo cytundebau cyfrinachedd ysgrifenedig, mynychu hyfforddiant ar ddiogelu gwybodaeth yn rheolaidd, a chydymffurfio â pholisïau’r cwmni ar ddiogelu gwybodaeth gyfrinachol. Rydyn ni’n ardystiedig gyda Cyber Essentials.

Rydyn ni hefyd yn gwneud yn siŵr y bydd unrhyw drydydd parti y byddwn yn gweithio gyda nhw yn cadw’r holl ddata personol maen nhw’n ei brosesu ar ein rhan yn ddiogel.

 

Eich hawliau

Mae’r hawl gennych i ofyn:

  • am wybodaeth am sut caiff eich data personol ei brosesu
  • copi o’r data personol hwnnw
  • i unrhyw beth sy’n anghywir yn eich data personol gael ei gywiro’n syth bin

Cewch hefyd:

  • fynegi gwrthwynebiad i’r ffordd y caiff eich data personol ei brosesu
  • gofyn i’ch data personol gael ei ddileu os nad oes cyfiawnhad i’w gadw mwyach
  • gofyn i brosesu eich data personol gael ei gyfyngu arno dan rai amgylchiadau
  • os hoffech ofyn am unrhyw un o’r rhain, cysylltwch â ni drwy’r dulliau isod.

Cwcis

Ffeiliau llofnod digidol bychain yw cwcis, a gaiff eu storio gan eich porwr gwe ac sy’n caniatáu i’ch dewisiadau gael eu cofnodi pan fyddwch yn ymweld â’r wefan. Gellir eu defnyddio hefyd i olrhain eich ymweliadau drachefn â’r wefan.

Gallwch atal cwcis drwy osodiadau eich porwr, ond gallai hyn eich atal rhag defnyddio rhai o nodweddion y wefan.

Ein Gweinydd Gwe

Darperir y gwasanaeth gwe hwn ar ein rhan gan [NAME OF HOST], darparwr gwasanaeth sydd wedi’i leoli yn y Deyrnas Unedig. Gellir dod o hyd i bolisi preifatrwydd y gweinydd gwe yma [LINK TO HOST PRIVACY POLICY.]

Dolenni i wefannau eraill

Mae effro.org yn cynnwys dolenni i wefannau eraill.

Dim ond i effro.org mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol ac nid yw’n cyfrif ar gyfer unrhyw wasanaethau na gwefannau rydym yn rhoi dolenni iddynt. Mae gan y gwasanaethau hyn eu telerau ac amodau a’u polisïau preifatrwydd eu hunain.

Os ewch i wefan arall o’r un yma, darllenwch y polisi preifatrwydd ar y wefan honno i ddarganfod beth mae’r wefan honno’n ei wneud â’ch gwybodaeth.

Dilyn dolen i effro.org o wefan arall

Os dewch i effro.org o wefan arall, mae’n bosibl y byddwn yn derbyn gwybodaeth gan y wefan arall. Nid ydym yn defnyddio’r data hwn. Dylech ddarllen polisi preifatrwydd y wefan y daethoch ohoni i ddarganfod mwy am hyn.

Newidiadau i’r polisi hwn

Efallai y byddwn yn newid y polisi preifatrwydd hwn. Pe digwydd hynny, bydd y dyddiad ‘diweddariad diwethaf’ ar waelod y dudalen hon hefyd yn newid. Bydd unrhyw newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi a’ch data yn syth bin.

Os bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar sut caiff eich data personol ei brosesu, fe wnawn ni gymryd camau rhesymol i roi gwybod ichi.

Cysylltu â ni neu gwyno

Cysylltwch â ni os:

  • bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch unrhyw beth yn y ddogfen hon
  • byddwch yn meddwl fod eich data personol wedi cael ei gamddefnyddio neu ei gam-drin

Ebost: dpo@platfform.org

Teleffon: 01656 647722

Rheolwr TG a Chydymffurfiaeth

Platfform
2il Lawr, Tŷ Derwen
2 Court Road,
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 1BN

Gallwch hefyd wneud cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n rheoleiddiwr annibynnol. Manylion ar gael ar wefan y Comisiynydd www.ico.org.uk.

Diweddariad diwethaf: Mehefin 2021