Os oes angen mynediad cyflym arnoch at gefnogaeth ddementia i chi'ch hun neu i rywun annwyl, mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi gael help.
Os ydych chi angen siarad â rhywun heddiw
The Silver Line
Llinell gymorth gyfrinachol am ddim sy'n darparu gwybodaeth, cyfeillgarwch a chyngor i bobl hŷn, ar agor 24 awr y dydd, bob diwrnod o'r flwyddyn.
Gwasanaeth gwrando’r Samariaid
Lle diogel i chi siarad, unrhyw bryd, am beth bynnag sy'n eich poeni chi.
Cefnogaeth mewn argyfwng
Timau iechyd meddwl cymunedol CAVAMH ar gyfer pobl hŷn
Asesiad rheng flaen, triniaeth ddilynol a gofal i gleifion yn y gymuned â dementia, a phobl oedrannus â phroblemau iechyd meddwl eraill yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Timau iechyd meddwl cymunedol Cwm Taf Morgannwg
Amrywiaeth o wasanaethau sylfaenol, cymunedol a chleifion mewnol i oedolion ar draws ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Trelái a Merthyr Tudful.
Rhagor o gefnogaeth
Llinell gymorth dementia Admiral Nurse
Gall unrhyw un â chwestiwn neu bryder ynghylch dementia ffonio llinell gymorth dementia Admiral Nurse am ddim.
Llinell gymorth Dementia Connect
Gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor personol wedi’i roi gan y Gymdeithas Alzheimer’s.
Dewis Cymru
Cyfeirlyfr o wasanaethau cyngor a chefnogaeth lles i bobl sy’n byw yng Nghymru.