Cryfhau cymunedau

CY

Cefnogaeth un-i-un

Mae cefnogaeth un-i-un wedi'i phersonoli yn rhan greiddiol o’r hyn rydym yn ei gynnig, gan ddarparu fframwaith o gefnogaeth o amgylch anghenion ac uchelgeisiau penodol unigolyn.

O ymweliadau â hoff lefydd (fel traethau, amgueddfeydd, lleoliadau cyngerdd a meysydd chwaraeon) i gymorth i ddod o hyd i glybiau a chymdeithasau sy'n seiliedig ar hobïau neu ddiddordebau, mae ein cefnogaeth un-i-un yn cadw pobl yn weithgar yn gymdeithasol ac yn gorfforol fel rhan o'n dull o gefnogi dementia sy’n gyfannol ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael mewn sawl ardal yn Ne Cymru gan gynnwys Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. I ymholi am ein gwasanaeth cefnogi un-i-un, cysylltwch â ni.

Cefnogaeth grŵp

Mae ein sesiynau cefnogaeth grŵp yn ffordd bleserus i bobl sy'n byw gyda dementia aros yn weithgar yn gymdeithasol, wrth gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau strwythuredig.

Yn seiliedig ar egwyddorion therapi hel atgofion a CST (therapïau ysgogiad gwybyddol), mae ein sesiynau grŵp yn annog mynychwyr i ymgysylltu â'u hatgofion a'u sgiliau meddwl. Yn ogystal â bod yn hwyl, mae'r sesiynau'n darparu syniadau o weithgareddau y gall cyfranogwyr eu mwynhau yn annibynnol yn eu bywydau eu hunain. I ymholi am Effro yn dechrau sesiwn cefnogi dementia mewn grŵp yn eich ardal chi, cysylltwch â ni.

CY
CY

Hyfforddiant

Rydym yn cynnig hyfforddiant hyblyg, am ddim, i ofalwyr, staff, teuluoedd a chymunedau. Mae ein sesiynau hyfforddi cefnogaeth dementia yn darparu dull ymarferol, tosturiol y gall unrhyw un ei fabwysiadu wrth ofalu am rywun sy'n byw gyda dementia.

Ar hyn o bryd mae sesiynau ar gael heb unrhyw gost i gyfranogwyr, a gellir eu cynnal wyneb yn wyneb neu ar-lein. Gall ein dulliau gynnig llawer o fuddion, fel lleihau straen a phryder a gwella perthnasoedd gofalwyr. Rydym hefyd yn trafod strategaethau cyfathrebu, ffeithiau allweddol am ddementia a lles gofalwyr. I ymholi am ein gwasanaeth hyfforddi, cysylltwch â ni.

CY

Cefnogi gofalwyr

Cyflwynir ein rhaglen cefnogi gofalwyr mewn partneriaeth â gwasanaeth cwnsela Platfform, Breathe. Mae'r rhaglen yn gymysgedd o gefnogaeth ymarferol ac emosiynol i'r rhai sy'n gofalu am unigolyn sy'n byw gyda dementia.

Mae pob sesiwn o’n rhaglen cefnogi gofalwyr yn cyd-fynd â sesiwn grŵp cyfagos, y gall yr unigolyn sy'n byw gyda dementia ei mynychu, gan roi'r amser a'r lle i ofalwyr ganolbwyntio'n llawn arnynt eu hunain trwy gydol y sesiwn. I ymholi am ein gwasanaeth cefnogi gofalwyr, cysylltwch â ni.

Ymgysylltu ac arweiniad

Gall darganfod pa gefnogaeth sydd ar gael i bobl sy'n byw gyda dementia fod yn dasg lethol a heriol yn emosiynol. Mae ein tîm o arbenigwyr cyfeillgar wrth law i'ch tywys trwy'r amrywiaeth o wasanaethau gofal a chefnogaeth sydd ar gael.

Rydym yn ymdrechu i ystyried amgylchiadau ac anghenion personol pob unigolyn, gan gysylltu â darparwyr gwasanaeth eraill lle bo angen a'ch tywys trwy'r broses o gael gafael ar gefnogaeth. I ymholi am ein gwasanaeth ymgysylltu ac arweiniad, cysylltwch â ni.

CY
CY

Cyfeillion Dementia

Mae Cyfeillion Dementia yn bodoli i godi ymwybyddiaeth o ddementia, gan helpu pobl i ddeall sut beth yw byw gyda chyflwr sy'n gysylltiedig â dementia.

Mae ein tîm yn gweithredu fel gwirfoddolwyr i Gymdeithas Alzheimer’s er mwyn cyflwyno sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia: digwyddiadau awr o hyd sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor ar ddementia. I ddysgu mwy am Gyfeillion Dementia neu os ydych eisiau ymholi am fynd i sesiwn, cysylltwch â ni.

Llyfrau cof digidol

Cof bach USB yw llyfr cof digidol, sy'n cynnwys ffotograffau, clipiau fideo, cerddoriaeth ac atgofion eraill sy'n ymwneud â bywyd unigolyn.

Fel rhan o'n gwasanaeth cefnogi un i un, rydyn ni'n helpu pobl sy'n byw gyda dementia i gynhyrchu eu llyfrau cof digidol eu hunain, a’u galluogi i ailedrych ar ddigwyddiadau a phrofiadau sy'n sbarduno cysylltiadau cadarnhaol a'u hatgoffa o amseroedd hapus. I ddysgu mwy am lyfrau cof digidol, cysylltwch â ni.

CY
CY

Prosiectau rhandiroedd a gwenyna

Ar hyn o bryd rydym yn treialu menter fendigedig: helpu pobl â dementia i gymryd rhan mewn prosiectau tyfu bwyd mewn rhandiroedd, ynghyd â’r cyfle i gael gwenyna; gweithgaredd difyr a gwerth chweil. Fel gweithgaredd amlsynhwyraidd gyda chymuned angerddol a gweithgar o'i gwmpas, credwn y gall gwenyna fod yn hobi delfrydol i bobl sy'n byw gyda dementia.

Bydd cyfranogwyr yn ein prosiect yn cael eu cefnogi gan arbenigwyr gwenyna, gan helpu i ofalu am nythfa leol o wenyn wrth ddysgu technegau gwenyna traddodiadol. Gyda buddion yn cynnwys cymdeithasu hamddenol, ymarfer corff ysgafn, ymdeimlad o gyflawniad a blasu ffrwythau blasus, gall y rhai sy'n ymwneud â'n prosiectau rhandiroedd a gwenyna gael budd enfawr o gymryd rhan. I ymholi am y prosiectau hyn, cysylltwch â ni.

Swipe left or right to see more services.