Dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth roi cefnogaeth dementia

Mae llawer o elusennau a sefydliadau dementia yn canolbwyntio ar anghenion ymarferol neu feddygol y bobl maen nhw’n gweithio gyda nhw yn unig. Yn Effro, credwn fod mwy y gellir ei wneud; bod cydnabod anghenion, dymuniadau ac unigolrwydd pob person yn creu cyfleoedd ar gyfer bywyd gwell.

Yn hytrach na chymryd agwedd hollol wrth-risg, rydym yn gweithio gydag unigolion i archwilio’r pethau y mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddyn nhw. Rydym yn rhoi fframwaith diogel a chefnogol i bobl sy’n byw gyda dementia ganolbwyntio ar agweddau mwyaf pleserus eu bywydau: gan fyfyrio ynghylch atgofion hapus, ailymweld â hoff lefydd ac ail-fyw eu diddordebau.

Credwn fod canlyniadau’r dull hwn yn siarad drostynt eu hunain. Trwy ein cefnogaeth a defnyddio technegau fel therapi ysgogiad gwybyddol a hel atgofion, gall yr unigolion rydyn ni’n gweithio gyda nhw barhau i fyw bywydau boddhaus a chyflawn.

Deall dementia

Nid un cyflwr yn unig yw dementia: mae’n derm ymbarél sy’n disgrifio nifer o gyflyrau cynyddol sy’n effeithio ar yr ymennydd.

Mae dros 200 o gyflyrau ac achosion cydnabyddedig sy’n dod o dan gategori dementia. Mae’r mwyaf cyffredin o’r rhain yn cynnwys clefyd Alzheimer, dementia fasgwlaidd, dementia blaen-arleisiol a dementia cyrff Lewy (DLB). Mae hefyd yn bosibl cael mwy nag un math o ddementia.

Mae rhai o symptomau mwyaf cyffredin dementia yn cynnwys problemau cof, trafferth prosesu gwybodaeth, anawsterau cyfathrebu a newidiadau mewn hwyliau neu bersonoliaeth. Ac nid pobl hŷn yn unig sy’n cael diagnosis o ddementia – gall dementia sy’n cychwyn yn gynnar effeithio ar unigolion cyn 65 oed, gan effeithio ar fywydau mewn sawl ffordd.

Er nad oes ffordd hysbys o wella dementia na’i gyflyrau cysylltiedig, mae tystiolaeth bod ystod o ddulliau a therapïau yn gwella bywydau pobl sy’n byw gydag ef. Mae’r rhain yn cynnwys therapi hel atgofion (defnyddio’r synhwyrau i ddwyn i gof ddigwyddiadau a phrofiadau blaenorol) a therapïau ysgogiad gwybyddol (gweithgareddau strwythuredig sy’n helpu pobl sy’n byw gyda dementia i wella eu sgiliau cof a meddwl).

Er bod optimistiaeth a brwdfrydedd yn bwysig, rhaid cydnabod agweddau negyddol dementia hefyd; mae’n gyflwr terfynol a all effeithio ar fywyd mewn sawl ffordd. Efallai y bydd rhai pobl yn ymateb yn dda i’r therapïau uchod, ond efallai y byddai’n well gan eraill ddull gwahanol. Os ydych chi’n teimlo nad yw’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig yn Effro yn iawn i chi, mae yna elusennau a sefydliadau eraill sy’n rhoi cefnogaeth – rydyn ni wedi rhoi dolenni at rai o’r rhain ar ein tudalen gyswllt.

I ddysgu mwy am ddementia a sut i gefnogi’r rhai sy’n byw gydag ef, cysylltwch â ni, a threfnwch sesiwn hyfforddi Cyfeillion Dementia.

Maniffesto o blaid newid

Gwirfoddolwch gyda ni

Mae yna nifer o ffyrdd i gymryd rhan yn ein gwaith yn Effro. Mae ein gwirfoddolwyr yn ennill profiad gwerthfawr a chyfleoedd datblygu gyrfa, yn ogystal â'r boddhad o wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl â dementia.

CY

Cyfleoedd mentora

Enillwch brofiad a gwybodaeth wrth gael eich mentora gan ein tîm o weithwyr proffesiynol. Profwch amrywiaeth o rolau, o dasgau gweinyddol i'n prosiect cadw gwenyn unigryw.
CY

Gweithgareddau grŵp

Helpwch i redeg un o'n grwpiau cymunedol lleol ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia, gan alluogi unigolion i wella eu sgiliau gwybyddol mewn lleoliad cefnogol.
CY

Cefnogaeth un i un

Dewch i adnabod aelodau unigol o'n cymuned a'u cefnogi i ddilyn eu diddordebau ar sail un i un, yn dilyn hyfforddiant a chefnogaeth gan ein tîm.