Ymunwch â ni wrth i ni greu bagiau synhwyraidd! Mae hwn yn weithgaredd syml, pleserus sy’n defnyddio arogleuon a all helpu i’ch atgoffa o atgofion o’r gorffennol.
Ar gyfer yr enghraifft hon, rydym yn defnyddio:
- orennau a lemonau sych
- lafant sych
- blagur rhosyn
- petalau rhosyn
- marigold
- camri
Gallwch hefyd ddefnyddio unrhyw beth o’ch gardd – dail sych, glaswellt ac unrhyw flodau sydd ar gael i chi.