Newid canfyddiadau o ddementia

Newid canfyddiadau o ddementia

Byw bywyd llawn

Awel ysgafn. Adar yn canu. Coed yn blodeuo. Yn aml, y pethau bach mewn bywyd sy'n dod â hapusrwydd i ni. Yn Effro, rydym yn cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia i fyw bywydau boddhaus yn seiliedig ar brofiadau sy'n deffro eu synhwyrau, a gweithgareddau sy'n tanio llawenydd go iawn.

Rydym yn gwthio yn ôl yn erbyn systemau a syniadau hen ffasiwn sy’n ymwneud â dementia, yn cefnogi teuluoedd wedi’u heffeithio ganddo, ac yn brwydro dros fyd lle na fydd y gair ‘dementia’ byth yn diffinio’r unigolion sy’n byw gydag ef.

Darganfyddwch fwy
CY
CY

Dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth roi cefnogaeth dementia

Ble yw eich man hapus chi? Mae ein dull yn Effro yn cynnwys helpu unigolion sy'n byw gyda dementia i ailddarganfod eu mannau hapus nhw, p'un a yw hynny'n golygu mynd heibio golygfeydd cyfarwydd ar daith feicio yn yr awyr iach, neu fwyta pysgod a sglodion ar lan y môr lleol.

Rydyn ni'n cydnabod bod pob person rydyn ni'n gweithio gyda nhw yn unigolyn sydd â'i anghenion a'i ddymuniadau ei hun. Mae ein gwaith yn adlewyrchu hyn, gan roi cefnogaeth bwrpasol sy'n galluogi'r rhai sy'n byw gyda dementia i gael yr hyn maen nhw ei eisiau o fywyd, waeth beth fo'u hoedran a'u galluoedd.

Darganfyddwch fwy

Gwasanaethau cymunedol

Gall y golygfeydd, y synau, yr arogleuon, y blasau a'r gweadau rydyn ni'n eu cysylltu â'n hatgofion melysaf danio llawenydd ar unwaith. O de prynhawn mewn hoff gaffi i floeddiadau’r dorf mewn gêm rygbi, mae Effro yn ennyn diddordeb pobl mewn gweithgareddau maen nhw'n eu caru, gan brofi y gall bywyd gyda dementia fod yn un hapus o hyd.

Dysgu mwy

Ein rhaglen ar-lein

O bobi cacennau bach i wneud potiau planhigion, mae'r gweithgareddau yn ein fideos rhyngweithiol yn rhoi strwythur defnyddiol ar gyfer sesiynau grŵp dementia.

Dysgu mwy
CY
CY

Gwirfoddolwyr

Gwnewch wahaniaeth a chael profiad gwerthfawr wrth ddarganfod doniau a diddordebau brwd na wyddoch amdanynt, i gyd er mwyn cefnogi pobl i arwain bywyd cadarnhaol gyda dementia.

Gwneud gwahaniaeth